Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (46)v3 |
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog (60 munud) Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. |
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud) |
3. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty: Buddion caffael cyhoeddus i'r economi a chymunedau lleol (30 munud) |
4. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy: Adroddiad Blynyddol Strategaeth Amgylcheddol 2010-11 (30 munud) Dogfen Ategol: |
5. Dadl ar Ddulliau o Adfywio (60 munud) NDM4915 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi bod
y Llywodraeth yn bwriadu adolygu ei dulliau o ymdrin ag adfywio yn
unol ag agenda’r Llywodraeth gyfan o fynd i’r afael
â thlodi a chefnogi twf economaidd. Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Cymunedau yn Gyntaf, un o’i phrif raglenni ar gyfer adfywio cymunedol, yn dangos ei bod yn perfformio’n well drwy sicrhau bod gan y rhaglen dargedau clir, perthnasol a mesuradwy i fynd i’r afael â thlodi a bod cyllid wedi’i gyfeirio at gyrraedd y targedau hyn. Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod prosiectau adfywio yn canolbwyntio ar flaenoriaethau lleol sy’n atebol yn ddemocrataidd drwy gynyddu rôl cynghorau lleol yn y broses drwyddi draw. Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu y gall canol tref bywiog chwarae rhan bwysig i adfywio economi cymuned. Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod nad yw micro-reolaeth Llywodraeth Cymru o’i
hagenda adfywio yn gweithio, ac y bydd rhaid i'r Trydydd Sector
a’r Sector Annibynnol fod yn bartneriaid gwirioneddol o ran
strategaeth a chyflenwi er mwyn sicrhau adfywio
cymunedol. |
6. Dadl ar Setliad yr Heddlu (60 munud) NDM4916 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2012-2013 (Setliad Terfynol – Awdurdodau Heddlu) a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Chwefror 2012.
Dogfen Ategol: Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2012-2013 (Setliad Terfynol – Awdurdodau Heddlu) (Saesneg yn unig)
|
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd yr eitem am
|
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30 Dydd Mercher, 22 Chwefror 2012